Cydlynydd Prosiect Ceredigion – Beryl Evans beryloevans@aol.com
Mae'r Mynegai Claddu Cenedlaethol (NBI) ar gyfer Cymru a Lloegr yn cael ei gydlynu gan y Ffederasiwn Cymdeithasau Hanes Teuluoedd. Y bwriad yw darparu mynegai i holl gofnodion claddu mewn cofrestri plwyf Cymraeg a Saesneg, anghydffurfiol, yr Eglwys Gatholig a mynwentydd.
Mae Cymdeithas Hanes Teuluoedd Ceredigion eisoes wedi cyfrannu dros 108,000 o gofnodion i'r prosiect pan gyhoeddwyd 2il argraffiad y CD yn 2004, yn cynnwys cofnodion claddu lan hyd ac yn cynnwys 1920.
Mae'r 3ydd argraffiad i'w gyhoeddi nes ymlaen eleni ac mae'r Gymdeithas eisioes wedi cyfrannu miloedd yn rhagor o gofnodion o 1921 ymlaen.
Cydlynydd Prosiect – Beryl Evans beryloevans@aol.com
Mae'r gymdeithas wedi bod yn gweithio gyda findmypast.co.uk yn adysgrifio cyfrifiad 1851 ar gyfer Ceredigion. Rhoddwyd darn HO107/2481 i ni adysgrifio oedd yn cynnwys plwyfi yng Nghogledd Sir Benfro. Adysgrifiwyd y plwyfi canlynol gan y Gymdeithas a byddant yn ymddangos ar wefan findmypast yn y dyfodol.
Aber-porth
Aberteifi
Blaen-porth
Llandygwydd
Llangoedmor
Llechryd
Mwnt
Tre-main
Y Ferwig
Beifil, Y
Bridell Llandudoch
Cilgerran
Dinas
Eglwyswen
Eglwyswrw
Llandudoch
Llanfair Nant-Gwyn
Llanfihangel Penbedw
Llantwyd
Llanychlwydog
Maenordeifi
Meline
Moylgrove
Trefdraeth
Cydlynydd Prosiect – Shirley Williams ael-y-bryn@talktalk.net
Prosiect Haf 2009 fydd i barhau i gofnodi beddargraffiadau ym mynwent Eglwys Ysbyty Ystwyth. Os am wirfoddoli cysylltwch â'r cydlynydd.
Cydlynydd Prosiect – Shirley Williams ael-y-bryn@talktalk.net
Prosiect Gaeaf 2008-2009 oedd adysgrifio cofnodion claddu o gofrestri yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer NBI ac i adysgrifio cyfrifiad 1851 fel nodwyd uchod.