Cyhoeddir Cylchgrawn y Gymdeithas dair gwaith y flwyddyn yn Chwefror, Mehefin a Hydref ac yn cael ei ddanfon am ddim i aelodau.
Mae'n cynnwys newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau o ddiddordeb i aelodau, diddordebau aelodau, ynghyd ac erthyglau hirach gan aelodau ar sail eu hymchwil.
Cyhoeddwyd y Cylchgrawn cyntaf yn Chwefror 1996, ychydig o fisoedd ar ôl sefydlu'r Gymdeithas.
Yr ydym erbyn hyn wedi digido rhifynnau cynnar o'r Cylchgrawn a bydd rhai'n ar gael i'w prynu ar CD yn fuan.
Cyfrolau 1-2 (1996-2001) fydd ar y CD cyntaf. Bydd manylion pellach yn ymddangos ar y dudalen cyhoeddiadau.
Mae
mynegai llawn ar gael o'r prif erthyglau, ac yr ydym wedi dethol ychydig o erthyglau fel sampl (gweler rhestr isod) i'w cyhoeddi ar y wefan.
• 'The family of John Hughes, Llanbadarn Fawr, 1763-1842' Helen M. Kaznowski: Chwefror 1996
• 'Dadcu sails out - but steams home in the end' - episodes in the life of an Aberystwyth seaman.
Victor Williams: Chwefror 1996